Mae Cangen Cymru yn cynnwys aelodau o 7 Bwrdd Iechyd ac 1 Ymddiriedolaeth, ar draws Cymru gyfan. Mae pob un o’r Byrddau Iechyd yn sefydliadau aml-safle sy’n cynnwys cyfleusterau acíwt, cymunedol ac iechyd meddwl ac mae timau o Gynghorwyr Diogelwch Tân yn gyfrifol am ddarparu Diogelwch Tân. Yn ogystal, mae sefydliad a elwir yn Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Ystadau Arbenigol, yn rhoi cymorth strategol i bob un o Sefydliadau’r GIG, ac mae hefyd yn cyflenwi’r Peiriannydd Awdurdodedig ar gyfer Tân gan ddarparu gwasanaethau technegol uwch ar draws GIG Cymru.
Cynhelir cyfarfodydd cangen bob chwarter, fel arfer mewn lleoliad addas yng Nghanolbarth Cymru, i weddu i'r rhai sy'n teithio o bob rhan o'r wlad. Mae digwyddiadau DPP noddedig a chinio yn rhan o ddigwyddiadau'r dydd. Mae profiad aelodau yn helaeth ac amrywiol. Mae unigolion yn tarddu o gymysgedd o gefndiroedd gan gynnwys y GIG, y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Lluoedd Arfog.
Ystyrir bob amser bod y cyfarfodydd yn gyfle rhwydweithio gwerthfawr i'r holl aelodau ddod at ei gilydd o bob rhan o Gymru, yn ogystal â'r darparwyr DPP gwadd. Mae cyfraniadau i drafodaethau bob amser yn fywiog, yn berthnasol ac yn cael eu croesawu gan bawb.
The Welsh Branch is made up of members from across 7 Health Boards and 1 Trust, spanning the whole of Wales. Each of the Health Boards are multi-site organisations which include acute, community and mental health facilities, with teams of Fire Safety Advisors responsible for the delivery of Fire Safety. In addition, an organisation known as the NHS Wales Shared Services Partnership – Specialist Estates Services (NWSSP-SES), provides strategic support to each of the NHS Organisations, and also fulfils the Authorised Engineer (AE) for Fire providing advanced technical services across NHS Wales.
Branch meetings are held on a quarterly basis, normally at a suitable venue in Mid-Wales, to suit those travelling from across the country, with sponsored CPD events and lunch part of the day’s events. Member experience is vast and varied, with individuals originating from a mix of backgrounds including NHS, Fire & Rescue Service and Military.
Meetings are always seen as a valuable networking opportunity for all members to come together from across Wales, as well as the visiting CPD providers, contributions to discussions always vibrant, relevant and welcomed by all.